top of page
F4S3 Website Image.PNG

Wales (Cymraeg)

Programme resources

Rydyn ni’n llawn cyffro i rannu’r rhaglen hyfforddi Sylfeini ar gyfer y Sector gyda chi. Nod y cwrs hwn yw cynefino newydd-ddyfodiaid i drydydd sector Ewrop drwy ddull dysgu cyfunol. Yn ogystal â hyn, gall dysgwyr hawlio bathodyn digidol ar ôl cwblhau pob modiwl i gydnabod eu sgiliau a’u gallu newydd! 

 
Ar y dudalen hon fe welwch chi gynnwys cwrs sydd wedi’i gyfieithu i’r: 

  • Saesneg (ar gyfer trydydd sector Iwerddon) 

  • Saesneg (ar gyfer trydydd sector Cymru) 

  • Cymraeg 

  • Almaeneg 

  • Ffinneg.  

Y pedwar modiwl hyfforddi a gynigir yw: 

  • Tirwedd y Trydydd Sector  

  • Polisi Cyhoeddus ac Eiriolaeth  

  • Y Sgiliau Proffesiynol sydd eu hangen i Weithio yn y Trydydd Sector  

  • Y Sgiliau Personol sydd eu hangen i Weithio yn y Trydydd Sector. 

Os hoffech chi redeg rhaglen Sylfeini ar gyfer y Sector 3 yn eich mudiad, gallwch chi lawrlwytho’r holl adnoddau hyfforddi yma. Mae’r ffeil sip yn cynnwys yr holl ffeiliau ar gyfer pedwar modiwl y rhaglen, gan gynnwys: 

  • Cynlluniau gwers  

  • Sleidiau hyfforddi  

  • Adnoddau ychwanegol i’ch dysgwyr  

  • Dolenni ar-lein i ddysgwyr hawlio eu bathodynnau digidol ar ôl cwblhau modiwl neu’r rhaglen.  

Unwaith y byddwch chi’n lawrlwytho’r ffeiliau, bydd gennych chi bopeth sydd ei angen arnoch i redeg y cwrs! Gallwch chi ei redeg fel pecyn o bedwar modiwl hyfforddi, neu ei wneud mewn rhannau byr. Er enghraifft, cyflwyno un modiwl er mwyn diwallu anghenion hyfforddi eich grŵp. 

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau pellach ynghylch yr adnoddau, cysylltwch drwy’r dudalen gyswllt neu drwy anfon e-bost Wendy Gilbert ar wgilbert@wcva.cymru  neu CathyAnne o ‘The Wheel’ ar cathyanne@wheel.ie

Levitating Books

Download the zip file below for all F4S3 training documents for Wales (English & Cymraeg).

Colorful Notebooks

Programme Templates

Notebooks

Skills Validation

Colorful Notebooks

Transferability Report

Download a summary of our Transferability Report.

bottom of page